P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jacqueline Doig, ar ôl casglu 10,678 llofnodion ar-lein, a 490 ar bapur, sef cyfanswm o 11,168 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae symud gofal allan o'r sir yn rhoi oedolion a plant sydd mewn perygl o ganlyniadau gwael neu farwolaeth hyd yn oed. Mae'n gwastraffu amser hollbwysig pan nad yw amser ar ein hochr ni.

-Mae gennym 125,000 o drigolion a miliynau o dwristiaid. Bydd israddio’r gwasanaeth yn golygu bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn peryglu eu bywydau yn fwriadol. Rhaid pwysleisio ein bod yn sir wledig, eang, gyda ffyrdd a rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwael. Purfa, gweithfeydd nwy, porthladdoedd fferi, maes tanio, chwaraeon eithafol, ynghyd ag un o'r proffesiynau mwyaf peryglus: ffermio.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae’n bosibl y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn awgrymu nad yw’r “Awr Aur” yn berthnasol bellach, gydag ambiwlansys â gwell offer a staff sydd wedi’u hyfforddi’n well, ond mae hynny’n dibynnu ar fod ambiwlans ar gael i helpu a rhoi’r gofal hwnnw ar unwaith. Mae hyn yn digwydd llai a llai, gydag ambiwlansys yn methu ag ymddangos gan eu bod yn cael eu hanfon allan o’r sir, yn methu â dadlwytho ac yn methu â dychwelyd i’r sir, i roi’r cymorth sydd ei angen.

-Mae’n deimlad ofnadwy gwybod, os yw ein perthnasau neu ein plant yn cael pwl o asthma sy’n peryglu bywyd, pwl o epilepsi, neu broblem arall lle mae amser yn hollbwysig, fod y cynlluniau newydd yn golygu eu bod yn annhebygol o gael cymorth a goroesi.

-Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dweud na fydd yn gwarantu y byddai gofal brys yn aros yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg hyd nes (ac os) bydd adeilad newydd ar waith!!! Mae hynny'n annerbyniol.

-Dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ymrwymo i bolisïau recriwtio trwyadl er mwyn sicrhau bod staff llawn yn cynnig gofal brys yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.

-Rydym wedi colli ffydd ac ymddiriedaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac nid ydym yn credu ei fod yn gweithio er lles gorau Sir Benfro.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru